Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 23 Medi 2014

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Agenda

(217)v5

 

<AI1>

1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

Cwestiwn Brys

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar flocio gwelyau ac adrannau brys gorlawn, yn dilyn yr achos trasig o fenyw a fu farw wrth aros mewn ambiwlans y tu allan i Ysbyty Treforys? EAQ(4)0482(HSS)

 

</AI2>

<AI3>

2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 

</AI3>

<AI4>

Cynigion i ethol aelodau i bwyllgorau

NDM5575 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol John Griffiths (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Rebecca Evans (Llafur).

 

NDM5576 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:

 

(i) Alun Davies (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lle Leighton Andrews (Llafur);

 

(ii) Gwenda Thomas (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lle Jenny Rathbone (Llafur).

 

NDM5577 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Alun Davies (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle Julie James (Llafur).

 

NDM5578 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:

 

(i) Jeff Cuthbert (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Menter a Busnes yn lle David Rees (Llafur);

 

(ii) Gwenda Thomas (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Menter a Busnes yn lle Julie James (Llafur).

 

NDM5579 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:

 

(i) Jeff Cuthbert (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn lle Gwyn Price (Llafur);

 

(ii) Jenny Rathbone (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn lle Julie James (Llafur).

 

NDM5580 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:

 

(i) Alun Davies (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle Leighton Anderws (Llafur);

 

(ii) John Griffiths (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle Rebecca Evans (Llafur).

 

</AI4>

<AI5>

3 Datganiad gan Brif Weinidog Cymru: Canlyniad Refferendwm yr Alban a’i oblygiadau ar gyfer Cymru (45 munud)

 

</AI5>

<AI6>

4 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Lansio’r Papur Gwyn ar Gasglu a Rheoli Trethi Datganoledig yng Nghymru (45 munud)

 

</AI6>

<AI7>

5 Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Diwygio Llywodraeth Leol (30 munud)

 

Dogfennau Ategol

Datganoli, Democratiaeth a Chyflawni Papur Gwyn – Diwygio Llywodraeth Leol
Datganiad Ysgrifenedig - Gwahoddiad i Brif Awdurdodau Lleol yng Nghymru gyflwyno cynigion ar gyfer uno gwirfoddol

 

</AI7>

<AI8>

6 Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Gwasanaethau Cynghori - darparu cefnogaeth ymarferol i bobl yr effeithir arnynt gan y camau i Ddiwygio Lles (30 munud)

 

Dogfen Ategol
Dadansoddi effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU yng Nghymru

 

</AI8>

<AI9>

7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Seilwaith: Darpariaethau ar gyfer Rheoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol (15 munud)

NDM5533 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Seilwaith, sy'n ymwneud â dileu a rheoli rhywogaethau estron goresgynnol drwy gytundebau a gorchmynion rheoli rhywogaethau, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

 

Gellir cael copi o'r Bil Seilwaith yma:

http://services.parliament.uk/bills/2014-15/infrastructure.html (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Adroddiad Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

</AI9>

<AI10>

8 Dadl ar yr Adroddiad Blynyddol ar Ddatblygu Cynaliadwy 2013-14 (60 munud)

NDM5568 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi'r cynnydd a gyflawnwyd o safbwynt hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn 2013-14, fel yr amlinellir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 23 Mehefin 2014.

 

Dogfen Ategol

Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned - Adroddiad Blynyddol ar Ddatblygu Cynaliadwy 2013-14

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu y dylai'r Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a gynigir yn y Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol fod yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru, y dylai gael ei benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol ac y dylai reoli dangosyddion datblygu cynaliadwy.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi sylw'r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar rwystredigaethau o ran yr ymdrechion i gynyddu faint o ynni adnewyddadwy a gaiff ei gynhyrchu ar raddfa gymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys targedau ar gyfer ynni adnewyddadwy ar raddfa gymunedol wrth gyflwyno adroddiad ar y Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi sylw'r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy nad oes unrhyw gyfeiriad at fynd i'r afael â thlodi tanwydd i wella iechyd a chyflawniad addysgol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer y Grŵp Cynghori ar Dlodi Tanwydd gyda chylch gwaith priodol a'r gallu i wneud argymhellion polisi i'r Llywodraeth er mwyn sicrhau dull mwy integredig o fynd i'r afael â thlodi tanwydd.

</AI10>

<AI11>

Cyfnod Pleidleisio

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 24 Medi 2014

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>